Hugh EinionHUGHESYn dawel yn Ysbyty Bryn Beryl yn 67 oed ac o Bwlch, Rhiw, Pwllheli. Mab y diweddar Lewis a Janet a brawd annwyl Nesta, Jane, Wil, Alwyn, Emyr ac Eric a dewyrth a hen ddewyrth hoff. Gwasanaeth cyhoeddus ar lan y bedd ym mynwent Hebron, Llangwnadl dydd Iau Chwefror 17 am 1.00 o'r gloch (yn dilyn amlosgiad preifat ym Mangor). Blodau teulu agosaf yn unig ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof tuag at Gymdeithas y Clefyd Alzheimer trwy law Glyn Owen, Rhos Newydd, Mynytho.
Keep me informed of updates